|
|
Côr Eifionydd a'r MeseiaBu Côr Eifionydd yn hynod o brysur yn ystod Ionawr a
Chwefror, 2001 yn paratoi ac ymarfer tuag at un o’u prosiectau mwyaf
uchelgeisiol. Buont yn recordio’r
Meseia gan Handel i gyfeiliant Cerddorfa Siambr. Mae’r CD’n cael ei rhyddhau gan Gwmni Recordiau SAIN –
y tro cyntaf erioed i’r Meseia gael
ei recordio yn y Gymraeg, a’r tro cyntaf i SAIN recordio Cerddorfa! Cafwyd dau sesiwn caled o recordio yn Eglwys y Santes Fair, Caernarfon. I ddechrau, recordiwyd y côr o dan arweiniad medrus Pat Jones i gyfeiliant Cerddorfa Siambr Gogledd Cymru dan ofal Edward Davies. Mewn sesiwn arall fe recordiwyd yr unawdwyr sef Siân Eirian (soprano), Helen Medi (alto), Ian Rees (tenor) ac Aled Edwards (bas). Emyr Rhys ac Annette Bryn Parri fu’n gyfrifol am gynhyrchu’r CD, ac roeddynt wedi eu plesio’n fawr gydag ansawdd a safon y sain yn ystod y sesiynau recordio. “MESEIA”
– George Frideric Handel
Does dim dwywaith mai'r Meseia
gan Handel yw un o’r gweithiau cerddorol mwyaf adnabyddus yn y byd.
Cyfansoddodd Handel yr oratorio
yn 1741 ar ôl i’w ddwy opera
ddiwethaf fethu’n ariannol, ac roedd angen rhywbeth newydd, gwahanol a
llwyddiannus arno. Cyflwynwyd liberto iddo ar gyfer oratorio newydd gan Charles Jennens, ac fe gwblhaodd Handel y gerddoriaeth mewn tair
wythnos a hanner. Ers y perfformiad cyntaf yn Nulyn ar y 13eg o Ebrill 1742, enillodd y gwaith ei blwy yng nghalon
cenedlaethau o gerddorion a chynulleidfaoedd ledled y byd, yn enwedig felly yng
Nghymru. Roedd pob cymdeithas
gerddorol gwerth ei halen yn ystod y ganrif ddiwethaf yn perfformio’r
Meseia’n rheolaidd o gwmpas y Nadolig, ac i raddau mae’r traddodiad yn
parhau hyd heddiw mewn llawer cylch. Ond er mai â’r Nadolig y cysylltir y gwaith fel arfer mae yna gyfeiriadau at ddigwyddiadau eraill yn yr Ysgrythur. Nid yw’r Meseia’n dilyn hanes person mewn ffurf naratif fel y gwna oratorios eraill. Yn hytrach fe ddewisiodd ac addasodd Jennens, mewn modd celfydd, ddarnau o’r Beibl a’r Llyfr Gweddi Cyffredin gan greu gwaith sydd yn gwahodd y gwrandawr i fyfyrio ar agweddau gwahanol o Grist, y Meseia. Mae’r Meseia yn dathlu holl waith Crist, o’r proffwydoliaethau amdano yn yr Hen Destament, trwy ei fywyd, ei ddioddefaint, ei farwolaeth a’i atgyfodiad, hyd ei ail-ddyfodiad mewn gogoniant. |
|
|