|
|
Hâf/Hydref
2001
CÔR
EIFIONYDD ar y brig unwaith eto!
Ym mis
Gorffennaf daeth y Côr i’r brig mewn cystadleuaeth i gorau cymysg yng Nghwyl
Fawr Aberteifi - cystadleuaeth a ddenodd saith côr cymysg o wahanol rannau o
Gymru, Lloegr ac Iwerddon. Ond
uchafbwynt cystadlu i’r Côr bob blwyddyn yw’r Eisteddfod Genedlaethol, a Chôr
Eifionydd aeth â hi unwaith eto mewn cystadleuaeth a ddenodd wyth o gorau
cymysg o dan 40 o leisiau. Yn
hwyrach ym mis Awst cawsom
fel Côr wahoddiad i ganu mewn parti yng Nghastell Deudraeth i ddathlu’r
agoriad, ond gan fod nifer o aelodau’r Côr, a Pat ac Ann ar eu gwyliau,
cynrychiolaeth yn unig a aeth. Digon yw dweud i ni gael derbyniad ardderchog, a
llais enwoca’r byd - Bryn Terfel, yn ymuno â ni i ganu un gân, a
chawsom noson i’w chofio! Gyda
chystadleuaeth hwylio y “One Ton Cup” ar ein stepan drws ni ar ddechrau mis
Medi, cafodd y Côr wahoddiad i ganu mewn derbyniad i groesawu’r gystadleuaeth
yn swyddogol i Ben Llyn a chaswom groeso twymgalon iawn. Bu ein
cyngerdd mawreddog yn Neuadd Goffa Cricieth, ym mis Medi pan berfformiwyd
rhannau o Meseia, Handel gyda
Cherddorfa Siambr Gogledd Cymru, a’r unawdwyr sef Sian Eirian (soprano), Helen
Medi (alto), Ian Rees (tenor) ac Aled Edwards (bas).
Dyma’r cyngerdd mawreddog oedd wedi ei drefnu’n wreiddiol ar gyfer
mis Mawrth eleni, ond oherwydd clwy’ traed a’r genau bu raid i ni ohirio’r
cyngerdd lansio. |
|
|