|
|
Elusen
lleol yn elwa o’r canu
Mae Côr Eifionydd wedi codi arian ar gyfer elusen iechyd
meddwl yn lleol, yn sgil eu cyngerdd Nadolig fis Rhagfyr 2002. Yn
dilyn llwyddiant eu cyngerdd Nadolig Blynyddol yn Eglwys St Ioan, Porthmadog
mae’r Côr yn falch o allu cyflwyno siec am £250.00 i elusen Hafal (rhan
o’r National Schitzophrenia Fellowship, gynt) sy’n cynnig cefnogaeth a
chyngor i bobl yn yr ardal sy’n dioddef o’r cyflwr afiechyd meddwl yma. Meddai
Cadeirydd y Côr, Dr Ian Rees: “Mae’r
Côr yn cynnal cyngerdd yma yn flynyddol, ac yn dewis elusen lleol gwahanol pob
blwyddyn i’w cefnogi. Mae’n
bleser gennym eleni fod yn cefnogi’r elusen Hafal, sydd â swyddfa ym
Mhorthmadog, er mwyn sicrhau fod y gwaith ardderchog o gefnogi pobl sydd yn
dioddef o afiechyd meddwl, yn cael y gwasanaethau gorau posib”. Yn
derbyn y siec ar ran Hafal roedd Jean Pugh, a ddywedodd :
Dwi'n
falch a diolchgar iawn i Gôr Eifionydd am
y rhodd yma - cor sy'n ymwybodol iawn o'r angen i fod yn helpu'r bobl hynny y
maent yn byw yn eu plith, er mwyn goresgyn yr sialensau a gynigir i bobl - a
theuluoedd - yn yr ardal sy'n cael eu heffeithio gan afiechyd meddwl". Mae Hafal yn elusen iechyd meddwl trwy ledled Cymru, a chanddynt swyddfa leol ar gyfer Gwynedd ym Mhorthmadog. Mae'r ganolfan yn Arosfa, 110 Stryd Fawr, Porthmadog yn ganolfan 'galw i mewn' ac yn cynnig adnoddau, cyngor a chefnogaeth i bobl a theuluoedd sydd yn cael eu heffeithio gydag afiechyd meddwl - a chanddynt hefyd wasanaeth cefnogi gofalwyr a theuluoedd yn y gymuned. Nodiadau: |
|
|