|
|
Trip i Segofia!
Mae
Eifionydd ar y map! Wel o leiaf mae
pobl ardal Segofia, Sbaen yn gwybod
mwy am Eifionydd a Chymru ers ein hymweliad â’r ardal brydferth hon.
Tref hynafol yw Segofia, sydd tua awr a hanner o daith o faes awyr
Madrid, lle'r hedfanodd tua 32 ohonom ar Hydref 20ed am dair noson fel gwesteion
i gôr cymysg o'r ysgol gerdd leol. Cawsom westy hyfryd a chroeso twymgalon a llond trol o hwyl, o ia, buom yn canu rhyw gymaint hefyd! Roedd dau gyngerdd “swyddogol”, wedi eu trefnu - y cyntaf mewn eglwys fechan a oedd yn rhan o'r palas brenhinol La Granja de San Ildefonso. Cawsom groeso swyddogol gan Faer y dref i La Granja.
Palas
La Granja gyda'r eglwys yng nghanol y llun Roedd yr ail gyngerdd mewn eglwys hynafol yn nhref Segofia ei hun - Iglesia de San Justo. Roedd ymateb y gynulleidfa i’r cyngherddau yn gynnes a chroesawus iawn, ac roedd yn amlwg i’r trefnwyr weithio’n galed iawn gyda’r cyhoeddusrwydd o flaen llaw gan bod posteri gyda llun y Côr arnynt wedi eu plastro ar bob wal yn Segofia, ac, yn ôl y sôn, mae ein lluniau wedi bod yn y wasg leol ar ôl i ni adael (yn ein canmol wrth gwrs)!
Rhai aelodau o'r côr hefo'r posteri oedd wedi ei rhoi o gwmpas y dref. Cawsom
gyfle i weld tipyn ar Segofia a’r ardal tra yno, a bore rhydd (i siopa i rai)
yn Madrid cyn hedfan adre. Er bod y
daith wedi bod yn un byr bu’n un hynod o bleserus a hwyliog
iawn, diolch i drefniadau Ian a Wendy Rees ac rwy’n sicr y bydd sôn am
y daith yma yn Eifionydd ac yn Segofia am amser maith.
Yr aquaduct fawr yng nghanol Segovia
Segovia
|
|
|