Paris
Home ] Cysylltiadau ] Lluniau ] Newyddion ] Recordiau ] Hanes y côr ] Dyddiadur ] Lincs ]


                                                                                    

Storm yn taro Ffrainc!

Mae'n debyg fod pawb bellach wedi clywed am y storm a darodd Ffrainc yn ddiweddar.  Derbyniwyd adroddiadau dibynadwy am synnau mawr, pobl yn gadael eu cartrefi mewn ofn a phlant yn crio.  Sôn wyf, wrth gwrs, am yr ail storm a fu ym Mharis yn ystod y mis ddiwethaf - sef ymweliad Côr Eifionydd â'r ddinas.


Cychwynnodd 27 aelod o'r Côr ac un cefnogwr dewr yn ystod oriau mân bore Gwener, 7 Ionawr ar fws Cae Lloi am Fanceinion, ac yna ymlaen i Baris. Pwrpas y daith oedd i ganu mewn gwyl gorawl - 6ed Gwyl Gorawl Paris, i fod yn fanwl gywir.  

Ar ôl cyrraedd Paris a chyfarfod ein "guide", Hedwig, roedd rhaid mynd yn syth i ganu mewn cyfres o berfformiadau gan gorau yn y "Grande Arche" yn ardal modern "La Defense" y ddinas. Mae'r ardal yma yn un fodern iawn ac ar y cyrion, gyda dros 100,000 yn gweithio mewn swyddfeydd yno. Gresyn o beth fod rhaid i Gôr, sy'n cynnwys cofiwch, ambell aelod na welith un ar hugain
eto, newid mewn lle parcio bws - y dynion y tu allan yn yr oerni, a'r merched ym moethusrwydd y bws! Cafwyd cytundeb ymlaen llaw na fyddai neb yn sbecian! 

Roedd y daith i fyny i'r neuadd gyngerdd yn un ddiddorol iawn, gan fod y lifftiau y tu allan i'r adeilad, gydag ochrau gwydr iddynt. Cafwyd golygfeydd godidog - yr "Arc de Triomphe" yn y pellter, pobl fel morgrug oddi tanom, ac ambell feddyg lleol nid an-enwog yn gafael yn dynn yn yr handlen, gyda'i lygaid ar gau! 

Ar ôl ychydig o oriau o seibiant, teithiodd y Côr i eglwys Gatholig wrth ymyl yr "Arc de Triomphe" er mwyn rhannu cyngerdd gyda chôr o Ogledd Norwy ac un arall o bentref bach yn yr Almaen. Roedd hon yn noson braf, hamddenol, ac un o'r agweddau mwyaf diddorol oedd cyflwyniadau y corau eraill. Cafodd nifer o'r Côr gryn sioc wrth i ddwy aelod o Gôr Eifionydd ddangos eu doniau
ieithyddol wrth gyflwyno ein rhaglen ninnau - yn sicr mae Almaeneg Gwen a Saesneg Eleri yn destun rhyfeddod! 

Cafwyd cyfle ar ddydd Sadwrn i ymlacio tipyn ac i weld ychydig o'r ddinas hardd hon. Yn sicr mae Paris yn ddinas ogoneddus, a trist oedd gweld olion y storm gyntaf - y Seine wedi gorlifo, boncyffion coed yn gorwedd ar lawr, am ambell gar wrth ymyl y lôn wedi cael ei ddinistrio gan goed yn syrthio.

Daeth uchafbwynt cerddorol y daith ar y nos Sadwrn. Roedd gofyn i bob Côr ganu am 5 munud o flaen y corau eraill yn adeilad UNESCO yn y ddinas er mwyn cloi'r Wyl. (Dylid tynnu sylw at uchafbwynt arall a welwyd ar y ffordd i'r cyngerdd, sef Twr Eiffel wedi ei oleuo - golygfa fythgofiadwy). Cafwyd cryn bleser yn y cyngerdd clo hwn, wrth i gorau o nifer o wledydd Ewrop
berfformio mewn ffyrdd difyr a safonol. 

Wrth i berfformiad Côr Eifionydd ddynesu, rhaid oedd datrys dilema - un gân yn unig a ganiateid i bob côr ganu. Roedd Pat yn awyddus i ni ganu dwy gân - "Ar hyd y nos" a "Rhyddm y Ddawns", ond sut ellid "plygu'r" rheolau? Dwn i ddim sut y llwyddwyd i wneud hynny, ond ar ôl cyflwyniad Ffrengig Marian, aeth y Côr ymlaen i ganu'r ddwy gân. Roedd y derbyniad yn fythgofiadwy, gyda chorau eraill yn codi ar eu traed ac yn gweiddi am fwy (neu efallai eu bod yn gofyn i ni adael - mewn iaith dramor!). Rhaid cyfaddef fod sefyll ar y llwyfan y noson honno wedi rhoi gwefr i bob un o aelodau'r Côr - uchafbwynt yn wir.

Cyn i'r Côr gael cyfle i eistedd yn ôl i lawr yn ein seddau i fwynhau perfformiad y côr nesaf, roedd aelodau o gorau eraill yn pasio nodiadau draw yn ein llongyfarch ac yn estyn gwahoddiad i ni ganu yn eu gwledydd hwy. Cyn diwedd y noson, roedd y Côr wedi derbyn gwahoddiadau i ymweld â Norwy, yr Eidal, Sbaen a'r Almaen. Yn wir, ym marn pawb, Côr Eifionydd oedd "Côr yr
Wyl", heb os.

Gallwch ddychmygu fod cryn ddathlu yn dilyn y gyngerdd, gyda'r Côr mewn hwyliau da iawn. Cafwyd cyfle i rannu ein dathlu gyda teulu estynedig o Eidalwyr oedd yn bwyta yn yr un bwyty a ni ym Monmartre - mater o gwrteisi oedd derbyn eu rhodd o siampên ar ôl i ni ganu iddynt! Noson llawn hwyl a chanu, a hynny yng nghwmni ffrindiau hen a newydd (llawer ohonynt o wledydd
tramor). Daeth un ffaith yn amlwg - bach iawn o drigolion Ewrop sy'n ymwybodol fod gan Gymru iaith ac ein bod yn dod o Gymru nid Lloegr na Phrydain Fawr! Bu'n rhaid egluro hwn i sawl un!

Deallir fod nifer o aelodau o'r Côr wedi cychwyn traddodiad newydd o fwyta brecwast cyn mynd i'r gwely - tybed a oedd cysylltiad rhwng hyn â'r ffaith fod nifer o'r aelodau wedi cysgu'n braf drwy gydol y daith cwch ar y Seine ac hefyd ar y daith adref? Defnyddiol iawn yw cael meddyg yn aelod o'r Côr (ac, ar adegau Seicolegydd). Mawr yw ein gobaith na fydd rhaid i ni recriwtio cyfreithiwr!

Taith lwyddiannus tu hwnt o safbwynt cerddorol a chymdeithasol a mawr yw diolch aelodau'r Côr i Pat, Ann ac aelodau'r pwyllgor a fu wrthi yn trefnu (gwaith di-ddiolch iawn yn aml).  Yn ôl proffwydi'r tywydd, daw tywydd garw yn amlach o hyn allan. Mae gobaith felly na fydd raid aros wyth mlynedd arall cyn i "storm" Côr Eifionydd ymweld â gwlad dramor arall.

 

 
Home ] Cysylltiadau ] Lluniau ] Newyddion ] Recordiau ] Hanes y côr ] Dyddiadur ] Lincs ]