|
Cân i godi'r
galon!
Mynychodd dros 150 o bobl gyngerdd Nadolig Côr
Eifionydd ym Mhorthmadog a chodwyd £500 tuag at ymchwil arloesol i glefyd
y galon. Bydd yr arian yn gymorth i Sefydliad Prydeinig y Galon wrth
iddynt ymladd yn erbyn clefyd y galon a chylchrediad y gwaed - yr achos
pennaf dros farwolaethau yng Nghymru. Mynychodd Angharad Charles
Jones, un o wirfoddolwyr Sefydliad Prydeinig y Galon, ymarfer y côr i
dderbyn y siec oddi wrth arweinydd y côr, Pat Jones ac Amanda Owen (aelod
o'r côr sy'n fam i ferch a gafodd driniaeth i'w chalon yn
ddiweddar.) Dywedodd Pat : 'Mae'r Côr yn ceisio cefnogi achosion da
lleol gyda'r elw o'n cyngerdd Nadolig bob blwyddyn. Rydym yn hynod o
falch o allu cefnogi Sefydliad y Galon ar ôl profiadau Amanda a'i merch
yn ddiweddar.'
Newyddion
arall:
Elusen
lleol yn elwa o’r canu
Taith
i Segovia
Hâf/Hydref
2001
Recordio'r
Meseia - Gaeaf 2001
Hâf/Hydref
2000
Storm yn taro
Ffrainc! Gaeaf 2000 |