Hanes y côr
Home ] Cartref Cymraeg ] Home English ]


Côr Eifionydd

Côr cymysg yw Côr Eifionydd a ffurfiwyd ym mis Ionawr 1986 gyda’r bwriad o gystadlu yn Eisteddfod Bro Madog 1987, ac ers hynny mae’r Côr wedi mynd o nerth i nerth. Daeth sawl gwobr cyntaf i’w rhan yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn fwyaf diweddar yn 1999 yn Eisteddfod Genedlaethol Môn. Dros y blynyddoedd maent hefyd wedi bod yn gefnogol iawn i eisteddfodau bychain lleol, ac wedi cynnal cyngherddau at achosion da yn lleol.

Ond nid Côr eu milltir sgwar yn unig yw Côr Eifionydd gan eu bod yn teithio i bob cwr o Gymru a thu hwnt. Maent wedi cystadlu, ac wedi cael llwyddiant sawl tro yn Nghwyl Fawr Aberteifi ac y llynedd fe wnaeth y Côr cryn enw iddynt eu hunain gan ennill dwy brif gystadleuaeth – y gystadleuaeth gorawl "wledig" a chystadleuaeth y corau cymysg, cyn mynd ymlaen i gystadlu ac ennill cystadleuaeth CÔR Y CORAU. Rhai blynyddoedd yn ôl bu’r Côr ar daith i Fienna, Awstria, ac ar ddechrau’r flwyddyn y llynedd, bu’r Côr yn canu mewn Gwyl Gorawl ym Mharis. Mae cynlluniau ar y gweill i fynd i ardal Segovia, Sbaen ym mis Hydref 2001.

Mae aelodaeth y Côr wedi newid dros y blynyddoedd, ond mae’r nifer wedi aros yn weddol gyson gyda thua 35-37 "ar y llyfrau", ond mae prinder dynion wedi bod yn broblem ers blynyddoedd! Er mai yng Nghricieth mae’r Côr yn ymarfer bob nos Lun o 7.30pm hyd 9.00 pm mae’r aelodau yn teithio o bob rhan o Eifionydd a hyd yn oed o Harlech a Blaenau Ffestiniog yn Meirionnydd i Bethel a Chaeathro yn Arfon!

Mae "repertoire" eang gan y Côr, yn amrywio o ddarnau o operau a gweithiau crefyddol, caneuon gwerin a thraddodiadol Gymreig ac hefyd nifer helaeth o ganeuon ysgafn, modern gan gyfansoddwyr cyfoes.


Pat Jones – Arweinydd

Yn enedigol o Gastell Newydd Emlyn addysgwyd Pat Jones yn Ysgol y Preseli a’r Coleg Cerdd Brenhinol. Ar ôl cyfnod o weithio yn Llundain, dychwelodd i Ddyfed i ddysgu piano yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Tra’n byw yn Hen-Dy-Gwyn-ar-Dâf, bu’n cyfeilio ac yn arwain y Côr meibion lleol. 

Ar ôl priodi â Roger, sy’n filfeddyg, symudodd y ddau i fyw i Chwilog ac mae ganddynt ddau o blant. Mae cerddoriaeth yn amlwg yn chwarae rhan amlwg ym mywyd Pat - yn ei gwaith bob dydd mae’n yng nghanolfan gerdd William Mathias, ac mae hefyd yn weithgar iawn yn ei hamser hamdden gyda Chor ieuenctid ac aelwyd yr ardal . 

Mae Pat wedi bod yn arweinydd brwdfrydig y Côr ers ei sefydlu yn 1986.

 


Ann Jones – Cyfeilydd

Yn enedigol o Harlech, symudodd Ann i fyw i Borthmadog ar ôl priodi ag aelod o’r Côr, Treflyn ac erbyn hyn mae iddynt un ferch fach. Ond mae Ann yn dal i gadw cysylltiad â’i bro genedigol gan ei bod bellach yn brifathrawes yn ysgol gynradd Dyffryn Ardudwy. Nid Côr Eifionydd yw’r cyntaf i fanteisio ar ei doniau hi gan iddi gyfeilio i Gôr Meibion Ardudwy ar eu taith i Ddenmarc yn 1982, ac yn ddiweddarach bu’n cyfeilio i Gôr Lleisiau’r Gest, Porthmadog am gyfnod.

 

Home ] Cartref Cymraeg ] Home English ]