Haf 2000
Home ] Cysylltiadau ] Lluniau ] Newyddion ] Recordiau ] Hanes y côr ] Dyddiadur ] Lincs ]


Hâf 2000

Dyma grynodeb o’r hyn fu’r Côr yn ei wneud yn ystod  yr hâf

Gwyl Cricieth (Mehefin)

I’r rhai ohonoch na welodd un o dri perfformiad o opera ysgafn Culhwch ac Olwen, a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer Gwyl Cricieth eleni, cawsoch golled! Do fe fethoch chi’r Côr yn canu gwaith gan un o gyfansoddwyr mwyaf adnabyddus Cymru, Geraint Lewis, ond yn fwy arwyddocaol fe fethoch chi berfformiad dramatig a phroffesiynol gan aelod o’r Côr, Treflyn Jones. Roedd yn chwarae rhan Cilydd, fab Cilyddon Wledig yn ogystal â’r Twrch Trwyth (bob yn ail, nid efo’i gilydd!) ac anghofiwn ni fyth ei berfformiad o’r Twrch Trwyth – da iawn wir Treflyn! Gobeithio na fydd Treflyn yn rhoi gorau i ganu er mwyn canolbwyntio ar actio’n broffesiynol. Rhaid llongyfarch pawb a fu’n gysylltiedig â’r holl sioe.

Gwyl Aberteifi (Gorffennaf)

Bu’n Wyl hynod o lwyddiannus i’r Côr, gan i ni ennill pob cystadleuaeth yr oedd posib i ni ennill!! - y gystadleuaeth gorawl "wledig", a chystadleuaeth y corau cymysg, cyn mynd ymlaen i gystadlu ac ennill prif gystadleuaeth gorawl yr Wyl, sef CÔR Y CORAU. Roedd y Côr ar eu hennill yn sylweddol yn ariannol hefyd, a bydd yn rhaid i Pat gael cwpwdd newydd i gadw Cwpan Her y Western Mail, Cwpan Her Coedllwyd, Llanfyrnach a’r tlws a gyflwynwyd iddi hi fel arweinyddes "Côr y Corau"!!. Dyma’r ail dro i’r Côr fod yn fuddugol yng ngystadleuaeth Côr y Corau, y tro cyntaf oedd nôl yn 1992 pan dechreuodd y gystadleuaeth.

Eisteddfod Genedlaethol (Awst)

Bu’r Côr yn yn perfformio o’r Groesffordd gan Pwyll ap Sion ac Iwan Llwyd ym mhafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli nos Sul cyntaf yr Eisteddfod gyda Bryn Terfel, Cerddorfa’r BBC, Côr Rhuthun, Cantorion y Rhyd, Cantorion Sirenian, Cantorion Teifi, a Chôr Caerdydd. Roedd yn brofiad arbennig iawn cael bod yn rhan o Gôr oedd yn llenwi llwyfan y Genedlaethol ac wrth gwrs cael chanu gyda Bryn Terfel a Cherddorfa’r BBC.

Cyngerdd Porthmadog

Bu’r Cor yn perfformio yn y Ganolfan, Porthmadog nos Sadwrn, 9ed o Fedi gyda’r tenor Rhys Meirion, y soprano Siân Eirian a phedwarawd Cybi mewn noson a drefnwyd er budd Ysgol y Gorlan, Tremadog. Braf oedd gweld y Ganolfan yn llawn, gyda’r gynulleidfa’n amlwg yn mwynhau’r gwledd gerddorol.

Gwyl Llanelwy

Bydd y Côr yn canu mewn Noson Lawen yn ystod yr Wyl eleni yng nghwmni Caryl Parry Jones, Sian James a Chor Meibion Trelawnyd.

Gwyl Gerdd Dant , Bangor

Bu'r côr yn llwyddianus unwaith eto!  Enillwyd y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth Corau Gwerin mewn cystadleuaeth o safon uchel yn hwyr iawn yn y nos!

Mae llawer o ddigwyddiadau wedi eu trefnu ar gyfer y flwyddyn newyd a bydd y côr yn paratoi ar gyfer recordio eu CD newydd o rannau o'r Meseia i'w rhyddhau Pasg 2001.

 

 
Home ] Cysylltiadau ] Lluniau ] Newyddion ] Recordiau ] Hanes y côr ] Dyddiadur ] Lincs ]